![Cerddi Dafydd ap Gwilym](http://img.images-bn.com/static/redesign/srcs/images/grey-box.png?v11.9.4)
Cerddi Dafydd ap Gwilym
544![Cerddi Dafydd ap Gwilym](http://img.images-bn.com/static/redesign/srcs/images/grey-box.png?v11.9.4)
Cerddi Dafydd ap Gwilym
544eBook
Available on Compatible NOOK devices, the free NOOK App and in My Digital Library.
Related collections and offers
Overview
Product Details
ISBN-13: | 9781783165957 |
---|---|
Publisher: | University of Wales Press |
Publication date: | 06/01/2010 |
Sold by: | Barnes & Noble |
Format: | eBook |
Pages: | 544 |
File size: | 910 KB |
Language: | Welsh |
About the Author
Dr Huw Meirion Edwards is a Senior Lecturer in the Department of Welsh, Aberystwyth University.
Dr Dylan Foster Evans is a lecturer at the School of Welsh at Cardiff University.
Read an Excerpt
Cerddi Dafydd ap Gwilym
By Dafydd Johnston, Huw Meirion Edwards, Dylan Foster Evans, A. Cynfael Lake, Elisa Moras, Sara Elin Roberts
Gwasg Prifysgol Cymru
Copyright © 2010 Y CyfranwyrAll rights reserved.
ISBN: 978-0-7083-2295-6
CHAPTER 1
Y CERDDI a'r ARALLEIRIADAU
I
I'r Grog o Gaer
Cryf aberth yw nerth, nid yn aer —treiswyr
Eithr mywn trawswyrth didaer,
Crair mawrglod, croywrym eirglaer,
Crog bedwarban o gan Gaer.
Lluniaf arawl mawl can wyf maer — ar wawd
I'r wiwdeg fygrddelw glaer,
Lle breisgdwrf llanw llwybr wysgdaer,
Llathr amgylch cyfrestrfylch [Caer].
Llawn iawn fu o ddawn heb fodd aer —na thwrf
Na therfysg brwydr aglaer,
Ll[ ]lch oleugalch loywgaer,
Lle lleinw heli Dywi daer.
[ ]aer — [ ]
O achos y grog glaer,
Llathrgaen faen [ ] brwydrdaer,
Llithr byrdd fyrdd [fylch] lludw cylch Caer.
Llathrddelw fyw llin Llyw llwybr didaer — [
]claer
Lle daw, cyn treiaw traaer, Llanw
llawndraidd a gyrraidd Gaer.
[ ] dysg diaer — er urddas
I'r eurddelw loywfyw glaer,
Cannaid dadl [ ] didaer,
[ ]logion Caer.
Cyflawn yw o ddawn, ddinam faer, — ynof
Gan[ ]
Celfydd corf dedwydd didaer,
Coelfain cysegrblas cain Caer.
I
I'r Grog yng Nghaerfyrddin
Aberth grymus yw nerth (nid mewn rhyfel gorthrechwyr
ond mewn gwyrth gadarn dirion)
crair clodfawr, eglur ei rym, enwog,
crog ac iddi bedwar pwynt o Gaer wen.
Lluniaf ddatganiad o fawl gan fy mod yn stiward ar
i'r ddelw wych, ddisglair, hyfryd, farddoniaeth
lle mae twrw mawr llanw byrlymus ei gwrs,
cwmpas disglair Caer â rhesi o fylchau.
Llawn iawn fu o fendith heb ddull rhyfel na thwrw na
therfysg brwydr dra disglair.
......caer loyw olau ei gwyngalch,
lle mae'r môr yn llenwi afon Tywi fyrlymus.
....................
o achos y grog ddisglair,
maen â gorchudd llathraid ......taer ei ymladd,
llyfn yw'r bylchau â llawer o ystyllod [i]'r llu o gwmpas
Caer.
Delw fyw lathraid o linach Tywysog llwybr tirion,
............disglair
lle daw, cyn treio tu draw i'r maes,
llanw sy'n treiddio i'r eithaf ac yn cyrraedd Caer.
............dysg heddychlon er anrhydedd
i'r ddelw fyw wych, loyw a disglair,
disglair yw datganiad [?cennad] addfwyn,
....................Caer.
Cyflawn o fendith ydyw, stiward di-fai, ynof
gan ....................
celfydd yw'r piler gwynfydedig tirion,
newydd da ty sanctaidd hyfryd Caer.
C[ ] Crist yw saer — y grog
Groywgadr wyrth ffrwythlonglaer,
Creawdr [ ]
[Crair] a ddoeth i dref goeth Gaer.
Y grog hon, loywfron lyfr Biblglaer — [
]saer
Eurddelw, drwyadl ddadl ddidaer,
Urddas carueiddblas Caer.
[ ] cannaer — aneuog
Lle mae naweirw dwrddglaer,
D[ ]daer
Dwfr dros lennyrch a gyrch Gaer.
Dug llanw gwyll [ ]
Er moliant i'r ddelw glaer,
Deifr brudd-deml, dwfr ebrwydd-daer,
[ ] Caer.
Da fu, drwyadl ddadl ddidaer, — hwyl[ ]
H[ ]
Dawn mawrglau, dinam, eirglaer,
Dwyn gem a garem i Gaer.
Credadun eiddun addef —yw dyfod
I blith Deifr Saesnectref,
[ ]
Crair croywgain air, crog o nef.
I'w ffloywfrain[
]dwyn gwawd gysylltgref,
Ei phlas yw Caer, aer wrdd-dref,
[ ]
Mae un englyn yn annarllenadwy yma, wedi ei docio ar frig y ddalen. Mae'n bosibl fod dau englyn arall yma hefyd yn wreiddiol.
............ Crist yw saer y grog
bur a chadarn ei gwyrth lesol a disglair,
Creawdwr............
[crair] a ddoeth i dref Caer ysblennydd.
Y grog hon, llyfr Beibl disglair â chlawr addurnedig,
............saer
delw wych, datganiad trylwyr tirion,
urddas ty annwyl Caer.
............can byddin diniwed
lle mae naw berw ton disglair eu swn,
....................
dwr dros ddolydd sy'n mynd tuag at Gaer.
Daeth llanw gwyllt â ............
er moliant i'r ddelw ddisglair,
teml ddwys y Saeson, dwr cyflym byrlymus,
............Caer.
Da fu, datganiad trylwyr tirion, cwrs
....................
bendith fawr ac eglur, di-fai, enwog,
cludo gem a garem i Gaer.
Cyffes gywir a dymunol yw dyfod
i blith Saeson tref Seisnig,
....................
crair eglur a hyfryd ei fri, crog o nef.
I'w ?braint ddisglair ...........
............ cludo barddoniaeth wedi'i chysylltu'n gadarn,
ei thy yw Caer, tref filwrol gadarn,
....................
................
................
................
................
Peryf didrist Grist groes dioddef — mygr,
Ni magwyd trafn mal Ef,
Pur, Mur, Amherodr tangnef,
Poen ffyrfgrair ffêr pêr Nêr nef.
Dug Duw Tad ddelw fad fydr gywair — i Gaer,
Egoriad gwyrth y'i gwnair;
Dygaf, dogn beraf burair,
Dwygerdd groyw i'm digardd grair.
Gwnaeth hon i'r deillon, heb dwyllair, — ni drem
Fal y dremwalch mudair;
Arwydd na bydd, ffydd Ffyrfbair,
Arab heb nerth Mawrfab Mair.
A bod, gwawl nawsglod, gwael annisglair — grupl,
Grapach feirw, Dwy eilgair,
Ar osteg, wiwdeg wawdair, Ar
restr yn ffyrf beddestr ffair.
O'i gwyrth prudd a'i budd y byddair — a glyw
Yn gleuwymp ddilestair;
A byw yn llwyrgryf a bair
O beth marw, obaith mawrair.
Gorhoff grair purair Peryf, — aglaerddelw
Eglurddoeth ei gwyrth cryf,
Gwyr pob gradd, mad nadd neddyf,
Gorau taith er Gwr a'u tyf.
Gofwy aur [ ]fawl deisyf — y grog
O groywGaer galchliw nyf,
Gwedy maddeuaint, braint bryf,
Gwawdaml seilm gwiwdeml Selyf.
Molaf, addolaf ar ddeulin, — [
]atwyf dafodflin,
Myrdd a fawl, gwehynfawl gwin,
Mawrddelw o fygrdrefn Myrddin.
Croes dioddefaint gogoneddus yr Arglwydd Grist
ni fagwyd pennaeth fel Ef, gwynfydedig,
Amddiffynnydd, Ymherodr pur tangnefedd,
dioddefaint crair cadarn gwych Arglwydd tirion y nef.
Daeth Duw Dad â delw ddaionus gywrain ei cherdd i Gaer,
fe'i gwneir yn allwedd gwyrth;
dof innau (cyfraniad o'r moliant pur melysaf)
â dwy gerdd eglur i'm crair di-fai.
Gwnaeth hon i'r deillion nad ydynt yn gweld, heb air o
[fod] fel y gwalch llygadog yn ei lawn blu; gelwydd,
arwydd na bydd, Arglwydd nerthol y ffydd,
neb yn ddedwydd heb nerth Mab mawr Mair.
A bod, goleuni clodfawr ei natur, crupl truan a phwl,
meirwon gwywedig, ail air Duw,
yng ngwydd pawb, gair mawl hyfryd,
yn gerddwr cryf ar orymdaith mewn ffair.
O'i gwyrth ddoeth a'i lles bydd y rhai byddar yn clywed
yn eglur wych heb rwystr;
a bydd yn gwneud peth marw yn fyw holliach,
gobaith moliant mawr.
Crair clodfawr gair pur yr Arglwydd, delw ddisglair
eglur a doeth ei gwyrth gref,
mae pob gradd o bobl, naddiad da gyda bwyall,
yn gyfarwydd â thaith er mwyn y Gwr sy'n eu tyfu.
Ymweliad gwych ............ deisyf y grog
yng Nghaer eglur â lliw ei chalch fel eira,
wedi maddeuant, braint trwy lythyr,
salmau barddonol teml dda Solomon.
Molaf, addolaf ar fy ngliniau, ............
............ blinedig fy nhafod,
mae llawer yn moli, arllwysiad clodfawr o win,
delw fawr o drigfan ysblennydd Myrddin.
Egoraf, dodaf, dadl ddeulin, —'y mryd
Ym mrodiau gwyrthefin,
I garu delw ryelw rin,
[ ]in
[
]drefn myrr a gwin,
Cyflawn ddawn ddysg [ ] rin,
Coeth corf eurddoeth Caer Fyrddin.
[ ] — i Gaer,
Ac arwydd Iesu yw,
Croyw gerdd ferwloyw [
]cydfalch grair balch byw.
[ ] — [ ]edyriaith,
Awduriaid cerdd a'i clyw,
Wawr eurglawr byd a erglyw
Weddawl fawl i'r wiwddelw fyw.
Mynog ball eurog a bell oryw —Deifr
[ ]llyw
Lëygrwybr gaer ddilwygryw,
Loegrig foes, i'r loywgrog fyw.
[ ] ddileddf ddeddf a ddoddyw —i Gaer,
Pibl eirglaer, pybl erglyw,
O farw, firain Arglwyddlyw,
Eurog ball, a orug byw.
[ eur]ddelw wrddiaith — a gyrchodd
Ag erchyll hydr heb graith,
Corf balch[ ]eddylfaith,
Caer Fyrddin daer, fawrddawn daith.
[ ]wrddiaith — i fawrgaer,
Nid ofergerdd gwawdiaith;
Dyddwyn[ ]
Diddig detholedig daith.
Agoraf, dodaf, datganiad ar ddeulin, fy mryd
mewn barnau goruchaf,
i garu delw fuddiol iawn ei rhinwedd,
....................
...................
............ trigfan myrr a gwin,
dysg sy'n fendith lwyr,
ysblennydd yw piler gwych a doeth Caerfyrddin.
.................... i
Gaer
ac arwydd Iesu yw,
cerdd eglur ddisglair ei bwrlwm ......
...... crair byw urddasol.
....................
cyfansoddwyr barddoniaeth a'i clyw,
Arglwydd wyneb gwych y byd a glyw
fawl gweddus i'r ddelw fyw hardd.
Mantell euraid urddasol a wnaeth Saeson o bell
....................
caer ddiddiffyg lleygwyr o liw barrug,
dull Seisnig, ar gyfer y grog fyw ddisglair.
...... diysgog [ei] braint a ddaeth i Gaer,
enwog yn y Beibl a glywir gan y pobloedd,
o farw, Arglwydd arweinydd gwych,
mantell euraid, a wnaeth yn fyw.
......... delw euraid gref o ran iaith a ddaeth
gydag anafiadau mawr heb graith,
piler urddasol ....................
i Gaerfyrddin gref, taith fendithiol iawn.
............ iaith
gref i gaer fawr,
nid cerdd ofer yw iaith fawl;
dwyn ............
taith ddedwydd a dewisol.
[ ]aith — ugeinmil
A genmyl eu dawn maith;
Mynnaf na wydiaf wawdiaith,
Mawl hawl hylwydd rheg deg daith.
[ ] wyniaith — Usalem
A seilwyd yn Benrhaith,
Cylchwy bedd Crist ddi[
]sg magwyr fraisg fraith.
[ ]wych araith —Fyrddin
A farddawdd chwyl pobiaith,
Lle y mae[
]athrddelw freinfryw, fyw, faith.
2 englyn yn eisiau o bosibl
[
]dyr pellfaith
Uddunt wy a eiddun taith.
Duw trugar, neu'n câr, ni'n cawdd, — ein gognwd
Dros waetffrwd draws wawtffrawdd;
Dâr breinol a'n dewr brynawdd,
Dôr y nef a'n dyry nawdd.
Doeth i Gaer, lle taer twrf môr-gymlawdd — ffyrf,
Yn y ffurf y'n prynawdd,
Dwysgenw pêr, dysg a'n parawdd,
Delw o'r nef, Adeilwr nawdd.
Arail dalm o'm salm, na sawdd — ferw awgrim,
Fawr wiwgrog a'm prynawdd,
Erchyll gwaedfriw a'th liwawdd,
Archaf, er Duw Naf, dy nawdd.
............ ugain mil
sy'n canmol eu bendith helaeth;
sicrhaf na fyddaf yn llygru iaith fawl,
moliant hawl ffyniannus y daith sy'n lles teg.
............ iaith
wynfydig — Usalem
a seiliwyd yn Bennaeth,
ymyl bedd Crist .........
......... mur cadarn a lliwiedig.
............ traethiad gwych Myrddin
a ganodd gerdd sy'n cylchredeg ymhob iaith,
lle y mae ............
......... delw fyw ddisglair, urddasol, faith.
............
.........
...... pellfaith
iddynt hwy sy'n dymuno taith.
Duw trugarog, mae'n ein caru, nid yw'n ein ceryddu, ein tâl
dros lifeiriant creulon o waed a folir yn angerddol;
Derwen urddasol a'n prynodd ni yn ddewr,
Cynheiliad y nef sy'n rhoi nawdd i ni.
Daeth i Gaer, lle mae twrw rhuthr grymus y môr yn
yn y ffurf y'n prynodd ni, fyrlymus,
enwogrwydd melys, darparodd ddysg inni,
delw o'r nef, Crëwr nawdd.
Gofala am gyfran o'm salm, na ddarostwng arwyddion
y grog deg fawr a'm prynodd i, ysbrydoliaeth farddol,
anafiadau gwaedlyd a'th liwiodd,
erfyniaf, yn enw'r Arglwydd Dduw, dy nawdd.
Traul gwyarddafn Trafn, trefnawdd —eglurGrist
I'r glaergrog a'n lludd cawdd,
Tras ym mydr, traws ymadrawdd,
Tref yn ail nef, annwyl nawdd.
Llathr yw y grog fyw o fywn dinas — Caer,
Cariad eilun teyrnas,
Lle gwyl Deifr, llu gwelw difas,
Llif dwfr croyw a llanw gloyw glas.
Llwyr elw er eurddelw i ar urddas — gem
A gymyrth ty a phlas;
Lle beirw dwfr [ ] llwybr difas,
Llawr llathrfawr glawr llithrfor glas.
Lle deifrdaer yw Caer, lle nid cas — myned
Er mwyn delw nefolblas,
Lle[ ] Iuddas,
Lle beirw llawer glwyseirw glas.
Lluniaf daith drosaf, doeth dras, — i weled
Y wiwloyw golau gras,
[ ]llif uch camlas,
Llyry Caer a llen glaer llanw glas.
Mae yng nghylch llathrfylch llethrfaith blas — y grog
O g[ ]wg[ ]
Mwynrym ddawn maenrwym ddinas,
Mur hoyw a môr gl[ ] glas.
Maich wnaf i'm Trawsnaf trwy fodd tras — i'r grog
Ar groyw[ ] ei gwas,
Mygrwawd ddiofn, ddofn, ddifas,
Mal rhif graean ar lan las.
Cost dafn o waed yr Arglwydd, trefnodd Crist eglur
i'r grog ddisglair sy'n ein gwared ni rhag digofaint,
bonedd mewn mydr, ymadrodd grymus,
dref sy'n ail nef, nawdd annwyl.
Llathraid yw y grog fyw o fewn dinas Caer,
delw annwyl teyrnas,
lle gwyl y Saeson, torf welw gyfoethog,
llifeiriant dwr croyw a llanw gloyw glas.
Elw cyflawn ar gyfrif delw euraid trwy urddas gem
a dderbyniodd ty a phlasty;
lle mae dwr yn byrlymu ... cwrs dwfn
llawr [dyffryn] wyneb mawr llathraid y môr llyfn glas.
Lle byrlymus ei ddyfroedd yw Caer, lle nad cas mynd iddo
er mwyn delw y ty nefolaidd,
lle ............ Jiwdas,
lle mae llawer o donnau glas hardd yn byrlymu.
Lluniaf daith gadarnaf, bonedd doeth, i weld
y [grog] wych a disglair [sy'n rhoi] goleuni gras,
............ llifeiriant uwch cwrs afon,
llwybrau Caer a mantell ddisglair llanw glas.
Mae o gwmpas ty y grog a'i fylchau disglair a'i lethr hir
....................
bendith dirion ei grym dinas wedi'i amgylchynu gan faen,
mur cain a môr gloyw ..... glas.
Sicrwydd a wnaf i'm Harglwydd cadarn trwy foddion
ar groyw ......... ei gwas, bonedd i'r grog
mawl gwych, eofn, dwys, cyfoethog,
fel rhif graean ar lan las.
(Continues...)
Excerpted from Cerddi Dafydd ap Gwilym by Dafydd Johnston, Huw Meirion Edwards, Dylan Foster Evans, A. Cynfael Lake, Elisa Moras, Sara Elin Roberts. Copyright © 2010 Y Cyfranwyr. Excerpted by permission of Gwasg Prifysgol Cymru.
All rights reserved. No part of this excerpt may be reproduced or reprinted without permission in writing from the publisher.
Excerpts are provided by Dial-A-Book Inc. solely for the personal use of visitors to this web site.
Table of Contents
Contents
Rhagair, vii,Rhagymadrodd, ix,
Byrfoddau, xv,
Rhestr o'r Cerddi, xxi,
Y Cerddi a'r Aralleiriadau, 1,
Nodiadau, 585,
Mynegai i'r Teitlau, 751,
Mynegai i'r Llinellau Cyntaf, 756,