Yr Anymwybod Cymreig: Freud, Dirfodaeth a'r Seice Cenedlaethol

Yr Anymwybod Cymreig: Freud, Dirfodaeth a'r Seice Cenedlaethol

by Llion Wigley
Yr Anymwybod Cymreig: Freud, Dirfodaeth a'r Seice Cenedlaethol

Yr Anymwybod Cymreig: Freud, Dirfodaeth a'r Seice Cenedlaethol

by Llion Wigley

eBook

$18.49  $24.00 Save 23% Current price is $18.49, Original price is $24. You Save 23%.

Available on Compatible NOOK devices, the free NOOK App and in My Digital Library.
WANT A NOOK?  Explore Now

Related collections and offers


Overview

Mae’r gyfrol hon yn rhoi cipolwg ar gyfoeth hanes syniadau yng Nghymru dros hanner canrif cynhyrfus rhwng diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a marwolaeth yr athronydd disglair J. R. Jones ym 1970. Bu Jones yn rhan ganolog o’r ymgais a wnaed yn y cyfnod i gyflwyno syniadau newydd, heriol a chwyldroadol o feysydd fel seicdreiddiad a dirfodaeth i’r diwylliant Cymraeg. Adeiladodd meddylwyr ac ysgolheigion tebyg iddo ddarlun o’r anymwybod Cymreig mewn gwaith sydd o gymorth parhaol i ddeall ein profiadau hanesyddol a gwleidyddol fel cenedl. Trwy ddadansoddi sut yr ymatebodd awduron Cymraeg i syniadau Freud, Jung, Sartre, de Beauvoir ac eraill, lleolir hanes deallusol y Gymru Gymraeg mewn cyd-destun rhyngwladol eang. Ceisir ymhellach ddangos perthnasedd a phwysigrwydd y dehongliad Cymraeg o rhai o’r syniadau hyn i ddadleuon cyfoes ynglˆyn ag iechyd meddwl, gwleidyddiaeth ac hunaniaeth yng Nghymru. Ymatebodd cenhedlaeth o awduron i’r argyfwng dirfodol a wynebai’r diwylliant Cymraeg yn y cyfnod dan sylw trwy ddangos ymrwymiad a phenderfyniad i gymhwyso ac addasu’r datblygiadau deallusol mwyaf modern er mwyn ceisio goresgyn yr argyfwng mewn modd sy’n parhau’n ysbrydoliaeth heddiw, yng nghysgod Brexit a thwf awdurdodaeth.


Product Details

ISBN-13: 9781786834478
Publisher: Gwasg Prifysgol Cymru
Publication date: 06/15/2019
Series: Safbwyntiau
Sold by: Barnes & Noble
Format: eBook
Pages: 160
File size: 433 KB
Language: Welsh

About the Author

Y brif farchnad bydd darllenwyr Cymraeg sydd â diddordeb mewn syniadau, diwylliant a hanes, yn fwyaf penodol hanes Cymru yn yr ugeinfed ganrif. Bydd y gyfrol yn cwrdd â’r farchnad darged hon trwy gyflwyno tystiolaeth amrywiol ynglŷn â hanes deallusol a diwylliannol Cymru dros gyfnod tyngedfennol o hanner canrif rhwng 1920 a 1970, a thrwy adlewyrchu ar arwyddocâd y dystiolaeth hyn mewn modd heriol a pholemig. Dylai’r gyfrol apelio at farchnad academaidd o haneswyr a myfyrwyr sydd â diddordeb arbenigol yn y cyfnod dan sylw, yn ogystal â darllenwyr mwy cyffredinol.

Table of Contents

Diolchiadau Cyflwyniad 1. Meddygon yr Enaid: Seicdreiddiad a Seicotherapi yn y Gymraeg 2. Tywyll Heno? Ymatebion Llenorion Cymraeg I Seicdreiddiad 3. Argyfwng ac Ymrwymiad: Dirfodaeth Gymraeg 4. Cyfannu’r Rhwyg: Seicoleg yng Ngwaith J. R. Jones Casgliad Nodiadau Llyfryddiaeth Mynegai
From the B&N Reads Blog

Customer Reviews